Ebr
19
Posteri
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru |
Posteri
Unrhyw arwydd o’r etholiad? Diffoddwch y teledu a’r radio…bach iawn sydd yno.
Rwy’n edrych ‘mlaen at gyfle i lenwi peth o’r bwlch sydd yn y wasg ar hyn o bryd.
Mae daearyddiaeth y posteri yn eithaf diddorol..
Ym Meirionnydd ,dwi wedi edmygu posteri Dafydd Elis Thomas mewn lleoliadau prydferth (ac unig) Efallai poster Plaid ar fwlch yr Oerddrws A470 yw’r un mwyaf dramatig yng Nghymru. Nid pawb sy’n ddigon dewr i roi poster ar ddibyn fel hyn.
Yng Ngheredigion dwi wedi gweld nifer fawr o bosteri y Democratiaid Rhyddfrydol a Plaid Cymru – yn aml y tu allan i dai cymdogion agos ac yn meddwl, tybed a ydyn nhw’n ffrindiau?
Diddorol hefyd sylwi ar bosteri Plaid yng Nghaerdydd mewn ardaloedd lle bu’r Ceidwadwyr mor gryf rhyw ugain mlynedd yn ôl.
Oes gan ddarllenwyr Blog y Byd unrhyw dystiolaeth o ymgyrchu diddorol?

Yn Wrecsam chydig iawn o bosteri gwelwn… un poster anferth uniaeth Saesneg Dr No (John Marek) ar ochor ei swyddfa yn Stryd y Rhaglaw ac anferth o boster Lesley Griffiths (Llafur) ar ochor swyddfa Ian Lucas yn Ffordd Rhosddu. Ddim byd arall yn unlle!!
Wrth deithio trwy’r wlad i fynd i Lerpwl wythnos yn ôl, oedd yn edrych fel taw dim ond yng Ngheredigion bydd yr etholiad. Prin iawn oedd unrhyw bosteri ym Meirionydd a Sir y Fflint, a’r un peth yn wir trwy Wrecsam a Phowys ar fy ffordd yn ôl, nes cyrraedd Eisteddfa Gurig, lle oedd dau boster (Plaid a Dem Rhydd) o fewn 50 llath o’r ffin sirol.
Yma, yn Sir Gâr, o gwmpas Caerfyrddin, mae posteri Plaid Cymru di-ri, ar hyd pob ffordd a heol. Ger Llanelli, mae posteri Llafur, ond yn anaml. Penwythnos diwethaf, pan roeddwn yn Sir Benfro, gwelais lwyth o arwyddion ar gyfer y Ceidwadwyr, bron pob dwy lathen.