Ebr
16
Bae Pwy?
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru |
Penwythnos rhyfedd – eistedd mewn cynhadledd ar ddiwrnod braf.
Bore Sadwrn - gwrando ar rai o wleidyddion y Cynulliad yn beio’r cyfryngau am ddiffyg parch y cyhoedd tuag at y Cynulliad a’r hyn mae llywodraeth y Cynulliad wedi cyflawni.
Prynhawn Sadwrn - cyfrannu at y drafodaeth mewn panel o bobol y cyfryngau - yn beio gwleidyddion y Cynulliad am ddiffyg parch y cyhoedd tuag at y Cynulliad a’r hyn mae llywodraeth y Cynulliad wedi cyflawni.
Trafodaeth ddiddorol – ac o leia’ cafodd y Cynadleddwyr ddwy ochr y stori gobeithio.
Roedd cynhadledd Cyfrwng – a diolch amdano – yn gyfle i wleidyddion, arbenigwyr y colegau a phobl y y cyfryngau wrando ar ei gilydd. Roedd yna drafodaeth bwysig dwi’n meddwl –
A’r neges ?
‘Does dim byd gwaeth na newyddiadurwyr yn talfyrru eich dadleuon
Fel hyn falle?
Leighton Andrews (Llafur)
Mae’r Cyfryngau yn ofni darparu gwybodaeth am waith y Cynulliad
Alun Cairns (Ceidwadwr)
Mae Aelodau’r Cynulliad yn euog o fod yn anniddorol ac yn amherthnasol
ond nawr mae’n rhaid i bethau newid wrth i’r Cynulliad gael pwerau newydd.
Dafydd Elis Thomas (Plaid Cymru)
Does dim un newyddiadurwr yng Nghymru yn ddigon dewr i drafod realiti y Cyfansoddiad – a sut mae datganoli wedi newid gwleidyddiaeth ym Mhrydain ac Ewrop am byth.
Tim Hartley (Cyn bennaeth cyfathrebu Llywodraeth y Cynulliad)
Mae’r cyfryngau wedi bod yn euog o danseilio sefydliad democrataidd
Jenny Randerson (Dem Rhydd)
Mae consensws mewn gwleidyddiaeth yn haeddu mwy o le mewn adroddiadau ynglŷn â gwaith y Cynulliad.
Ymateb y panel o newyddiadurwyr? – wel dim lot – achos heblaw amdano i – gwanaeth dim un ohonyn nhw drafferthu i fynd i wrando ar y gwleidyddion.
Mae yna gonsensws am un peth ymhlith y gwleidyddion e leiaf. Dyw’r cyfryngau a nhw ddim yn ffrindiau mawr.
Mewn democratiaeth, ydy hynny yn beth drwg bob tro?

Dydy beio’r gwleidyddion am ddiffyg diddordeb gwleidyddol ddim yn ddilys. Mae safon gwleidyddion mewn gwlad democrataidd ond yn adlewyrchiad uniongyrchol o’r etholwyr a’u dewisodd. Rwy’n methu deall etholwyr sy’n cwyno am safon gwleidyddion. Os nad ydych chi’n hoffi’r gwleidyddion pleidleisiwch i rhywyn arall, os nad oes rhywyn arall, sefwch eich hunan!
Ni ellir beio’r wasg yn gyfangwbl chwaith, gan fod pynciau trafod y wasg yn dibynnu’n rhannol ar fodd eu darllenwyr. (Er hynny, dydy safon gyffredinol isel daldau gwleidyddol o fewn y wasg Gymreig yn sicir ddim o gymorth i ennyn diddordeb yn y pwnc, rwy’n gobeithio wnaiff Y Byd wirdroi y sefyllfa yma.)
Dydw i ddim yn siwr beth yw’r ateb, ond fe allai fod yn ddiddorol cymharu sefyllfa Cymru gyda rhanbarthau’r Eidal, ble mae diddordeb mewn glweidyddiaeth yn gyffredin iawn, (canrannau pleidleisio braidd byth o dan 75% mewn ynrhyw etholiad, foed i Gyngor, Rhanbarth, Genedlaethol neu Ewropeaidd, a chanran uchel o bobol yn ymwneud a gwleidyddiaeth yn uniongyrchol neu fel arall). Yn ychwanegol, mae safon dadlau gwleidyddol yn syndod o uchel ymysg gwleidyddion a’r wasg, ac mae papurau “rhanbarthol” safonol yn ffynnu. Pam?
Rwy’n ddarllenydd dyddiol o’r Evening Post yma yn Abertawe - papur newydd llwyddiannus dros ben. Dyma’r ddinas enillodd y Cynulliad Cenedlaethol i Gymru, ond fyddech chi byth yn credu hynny o ystyried agwedd negyddol y Post at y Cynulliad ar hyd y blynyddoedd. Wedi i ni golli’r gohebydd gwleidyddol ardderchog Brian Walters - yn dilyn crebachu adran olygyddol a chau adran argraffu’r papur gan gwmni Llundeinig Northcliffe - mae’r Post wedi dilyn polisi cyson o fychanu ar y Cynulliad, o feio’r Cynulliad fel corff am holl feiau’r Llywodraeth, ac o osgoi unrhyw sylw cadarnhaol. Fy marn i yw bod y papur hynod ddylanwadol hwn yn euog o hybu hinsawdd wrth-Gynulliad yn yr ardal sy’n rhwym o fod yn ffactor os cawn bleidlais isel arall yn yr etholiad ar Fai 3. Byddai’n ddifyr clywed am agweddau papurau newydd Saesneg lleol eraill Cymru at ein hunig gorff democrataidd cenedlaethol.
Dwi’n cyd weld gant y cant gyda’r gwleidyddion, dydy’r wasg wedi helpu dim i ddwyn perswad ar fobol Cymru i dderbyn y Cynulliad. Yn y Gogledd ryda ni yn gwbwl ddibynnol ar y Daily Post i’n hargyhoeddi…Duw a’n helpo!!
Ddim rhyfedd fod pobol y gogledd yn meddwl fod popeth yn mynd i’r de, does gan y ‘Liverpool’ Daily Post ddim byd i ddeud am y cynulliad os na mae o’n negyddol ar unig lythyrau y maent yn ei gyhoeddi ar y pwnc i’w rhai gan gefnogwyr UKIP a phobol wrth Gymreig fel ei tebyg. Dydw i ddim yn siwr os ydy gweithwyr y Daily Post yn gwybod be ydy ystyr y geiriau’Investigative Journalism’gan fod yna cyn lleiad o storiau a naws yn y papur yma.
Mae hon yn drafodaeth hynod bwysig mi dybiaf. Ar hyn o bryd ‘rwy’n teimlo bod ‘na ryw fath o agwedd “gorfforaethol” (yn yr ystyr hiliaeth gorfforaethol) gwrth-gynulliad, gwrth-bob-dim-sydd-ddim yn “cool” yn y cyfryngau Cymraeg a Chymreig. Mae’r “diwylliant” fel pe bae yn wrth unrhyw beth sy’n egwyddorol. Os oes modd gallu gwrth-droi rhywfaint ar hyn byddai’n llesol iawn.
Diolch am y cyfle i wneud sylw - gobeithio ei fod yn gneud synwyr.