Ebr
12
Pleidleisio a’r Cynulliad
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru |
Eisoes mae’r BBC wedi cyhoeddi canlyniadau arolwg barn sydd yn awgrymu fod ymwybyddiaeth ynglŷn â’r bleidlais ar Fai y 3ydd yn siomedig o isel.
Mae’n ymddangos i mi fod y diddordeb mewn pleidleisio yn arbennig o isel ymhlith y boblogaeth Gymreig sydd ddim yn dangos diddordeb mewn materion Cymreig beth bynnag.
Dyw’r bobl yma – bydded yn siaradwyr Cymraeg ai peidio – ddim yn dilyn unrhyw fath o newyddion Cymreig – bydded mewn print neu ar y cyfryngau eraill, ac felly wrth reswm yn gwybod braidd dim am waith na phwrpas y Cynulliad.
Wrth gwrs mae yna le i boeni am hyn. Dyw e ddim yn iach mewn democratiaeth i gael talp mawr o’r boblogaeth yn anwybyddu y sefydliad sydd yn gwneud penderfyniadau sylfaenol am eu bywydau. Ond mi fyddwn i yn poeni hefyd pe tai’r bobol yma – sydd i bob pwrpas yn cysgu yn wleidyddol – yn mynd ati i fwrw eu pleidlais. Tybed pa fath o siâp fyddai ar wleidyddiaeth y Cynulliad petai pleidleisio yn orfodol?. ‘Dwi ddim yn credu y byddai yn olygfa prydferth iawn.

Mae ymwybyddiaeth pobol Sir y Fflint or etholiad yn aruthrol o isel ar rheswm dros hynnu ydy’r ffaith mae gwrando ar BBC North West neu Granada Reports mae nhw a ddim newyddion BBC Wales/Cymru. Os ryda ni ni yn mynd i godi ymwybyddiaeth o bethau Cymraeg ar hyd y ffin mae raid i’r cyfryngau yng Nghymru a Lloegr ddechrau darlledu pethau o’r tu allan i’w talgylch naturiol. Mi ddylsai darllediadau gwleidyddol ar gyfer etholiadau y cynulliad fynd allan ar BBC North West ayb, mi fuasent yn cyrraedd fwy o fobol yn y Gogledd Ddwyrain na BBC Cymru/Wales.
Hmm….oes cynllun i gyhoeddi argraffiad Saesneg o’r Byd tu allan i’r Fro Gymraeg ? (neu tu allan i Gymru ?)