Byd y Byd

Categorïau: Blogio, Y Byd | 

Mae dyddiad cyhoeddi y Papur Dyddiol Cenedlaethol yn agosáu. Rydw i wedi dechrau’r gwaith o gynllunio papur newydd y Byd. Felly dyma ragflas bach. Bydd blog y Byd yn cynnwys y newyddion diweddara ynglŷn â’r papur – yn ogystal â fy sylwadau ar un neu ddau o bethau eraill sy’n digwydd hefyd.

Be fedra i ddweud felly am y Byd?

Mi fyddwn yn cyflogi deuddeg o newyddiadurwyr llawn amser er mwyn cynhyrchu papur safonol, cenedlaethol i Gymru.
Bydd y papur yn cynnwys newyddion o Gymru wrth gwrs, ond bydd pwyslais hefyd ar newyddion o bob man.
O ran maint –fe allwn ddisgwyl papur tua 24 tudalen fydd yn cynnwys yr elfennau y bydd darllenwyr yn disgwyl mewn papur newydd, dyddiol. Newyddion ( Cymru, Prydain, Tramor) tywydd, busnes, chwaraeon, teledu a radio, llythyrau, golygyddol, colofnau, teyrngedau, adolygiadau ac erthyglau nodwedd.

Bydd y Byd yn bapur annibynnol – papur â pherchnogaeth a’u gwreiddiau yng Nghymru. Nid oes gan y papur gysylltiadau gwleidyddol – dim ffyddlondeb i blaid na mudiad – ond yn hytrach ffyddlondeb i’w darllenwyr. Ein blaenoriaeth fydd adlewyrchu newyddion ar gyfer darllenwyr Cymraeg. Mae hynny yn golygu ysgogi trafodaeth ac ymdriniaeth o’r newyddion yn ogystal â chynnig gwasanaeth newyddion bywiog – yn lleol, yn Genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Dyma’r nod – ond mae un cwestiwn yn fy nilyn yn gyson. Nid pam papur dyddiol Cenedlaethol ( ac mae hynny yn beth da ) – ond pryd?

Ar hyn o bryd does dim ateb pendant i’r cwestiwn yna. Mi fydd union ddyddiad cyhoeddi’r rhifyn cyntaf yn aros yn ddirgelwch am y tro. Ond does dim amheuaeth gen i mai diwedd 2007 – o amgylch tymor yr Hydref fydd ein cyfle cyntaf i fynd i’r wasg. Mae fy nghyflogwyr – Cwmni Dyddiol Cyf – wedi sicrhau grantiau, cefnogaeth gan fuddsoddwyr unigol – ac yn arwyddocaol anogaeth gan dros 1700 o bobol mewn clwb cefnogwyr sydd wedi dangos nid yn unig yr awydd i danysgrifio ond hefyd i gefnogi y fenter.

Mae yna waith manwl a difrifol yn digwydd ar hyn o bryd i sicrhau seiliau cadarn i’r papur – hysbysebu, tanysgrifio, cynllunio systemau newyddion ac ati. Maes o law, pan fydd yr adeg yn iawn, fe fyddwn yn dechrau proses recriwtio.

Eisoes mae nifer sylweddol o newyddiadurwyr talentog a profiadol wedi cysylltu â’r papur i fynegi awydd i gyfrannu i’r papur. Felly mae pethau yn edrych yn addawol.
Mwy am hynny – a datblygiadau eraill ym myd y Byd yn fuan.
Am ragor o wybodaeth yn y cyfamser ewch at - www.ybyd.com.

Sylwadau

3 ymateb i “Byd y Byd”

  1. Martin Llewelyn ar Ebrill 27, 2007 4:23 pm

    Syniad gwych dechrau blog cyn i’r papur weld golau dydd. Fel buddsoddwr, credaf y bydd Colofn Lythyron wirioneddol egniol, prysur, adeiladol (h.y. chwarel o syniadau cyffrous) yn hwb allweddol i lwyddiant y papur. Gobeithio y bydd y blog yma yn boblogaidd iawn ac yn denu llwyth o sylwadau/ymatebion. Mae hyn yn un ffordd o godi stem a darbwyllo pobl i yrru llythyrau i’r papur yn ystod y dyddiau cynnar.Cysylltiad cryf a phositif rhwng y darllenwyr a’r papur ei hun-teimlo eich bod yn rhan o’r fenter. Nid oes gan y wasg Gymraeg unrhyw golofn lythyrau wirioneddol fywiog ar hyn o bryd.Mae’r blog yma yn llawn addewid.

  2. Martin Llewelyn ar Mai 26, 2007 9:38 am

    Un papur newydd sy’n denu fy sylw pob tro y byddaf yn cerdded heibio siop bapur newydd ydyw The Independent (h.y. y dudalen flaen). Clyfrwch, dychymyg, neges ddifyr. Mae wastad yn ysgogi’r meddwl. Mae hyn yn un dacteg/strategaeth y dylid ei ddefnyddio bob hyn a hyn er mwyn sicrhau cylchrediad parchus.

  3. Martin Llewelyn ar Mehefin 7, 2007 9:18 am

    Colofn andros o ddifyr a dadlennol gan Lyn Ebenezer yn Y Cymro: Drwy Lygad Barcud, Newid mawr mewn gwaith gohebydd, 25 Mai 2007. Yn rhyfedd ddigon, byddai’n eitha hawdd creu papur gweddol fywiog a diddorol drwy or-ddibynnu ar e.e. maes-edotcom, gwefan y BBC (h.y. hefo ambell i golofnydd difyr).
    Ond un ffynhonell yn unig ydyw maes-e. Chwarel o syniadau ysgogol ag ymarfer da i’r ymenydd sy’n ddyledus i sawl ffynhonell wahanol. Cysylltiadau. Rhwydweithiau. Sgyrsiau difyr ffurfiol ac anffurfiol ym Mae Caerdydd. Gliniaduron hefo defnyddwyr prysur mewn caffis…”Diolch i chi am y sgwrs a’r baned. Dwi’n ddiolchgar i chi am y wybodaeth”. Tybed ble fydd y “Llew Du” a’r “Caffi Sali” buddiol a llwyddiannus i y Byd? Byddant yn siwr o newid ac amrywio o ddydd i ddydd.

Gwneud sylw