Mai
29
Grant Cyngor Llyfrau
Categorïau: Y Byd | Gwneud sylw
Ar 29 Mai 2008, dyfarnwyd y £200,000 flynyddol a glustnodwyd gan y Gweinidog Rhodri Glyn Thomas ar gyfer datblygu’r wasg Gymraeg i Golwg Cyf. Rydym yn dymuno’n dda i Dylan Iorwerth a’r cwmni.
Rydym yn naturiol yn siomedig bod ein cynllun ni wedi’i wrthod - cynllun cyffrous gydag argraffiad wythnosol o 25,000 a gwefan gyda newyddion dyddiol.
Rydym yn deall bod y panel wedi bod yn gefnogol iawn i amcanion ein cais ond yn gweld bod gormod o risg i arian cyhoeddus pe na fuaswn yn cyrraedd y ffigurau hysbysebu rhagdybiedig. Does yr un fenter heb ei risg heblaw ei fod yn gynllun sy’n gwbl ddibynnol ar grant, ac yr oedd ein hasesiad ni o’r risg yn wahanol i asesiad y panel. Roedd ein hamcangyfrifon o incwm hysbysebu wedi’u paratoi gan arbenigwr allanol a hefyd aelod o’r Bwrdd oedd - y naill a’r llall - yn brofiadol iawn yn y maes fel y gwelwch o’r naratif amgaeedig.
Mawr obeithiwn y bydd cynllun Golwg, pan ddaw’r manylion yn glir, yn cynnig y cam sylweddol ymlaen i’r wasg Gymraeg y byddai papur dyddiol neu wythnosolyn-am-ddim wedi’i wneud.
Mai
9
Saesneg yw iaith yr amserau,
a Saesneg yw iaith y dail,
Saesneg yw mêl y gorllewin gwyllt
a Saesneg yw iaith yr haul.
Saesneg yw’r annibynnol,
a’r ceidwad sy’n ein cadw ni gyd,
cans fe gollon ni’r cyfle i newid y drefn,
a rhoi Cymraeg yn iaith i’r byd.
A thro bo cynifer yn gweiddi,
a’u cegau nhw led y pen,
ni all fod eu calon am siarad Cymraeg -
os yw’r byd mynd i ddod i ben.
Ac wrth dy fod heno yn cwyno
am golli yr heniaith o hyd,
hola dy hunan, beth, tybed, wnest ti
i achub Cymraeg drwy ein byd?
mh
Ion
14
Fe gyhoeddwyd arolwg Dr Tony Bianchi o’r wasg brintiedig cyfrwng Cymraeg y bore yma.
Mae’n cynnwys gwybodaeth ac argymhellion diddorol iawn.
Mae’r adroddiad cyflawn wedi ymddangos ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg
http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/cynnwys.php?pID=109&nID=2845&langID=1
Tach
28
Datganiad Y Byd
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru, Y Byd | 4 sylw
Mae Cadeirydd Dyddiol Cyf newydd gyhoeddi newyddion pwysig - mae dyddiad lansio Y Byd yn cael ei adolygu.
Hyd nes y daw’r broses o adolygu’r wasg Gymraeg - a’r broses wleidyddol sy’n dilyn - i ben, mae’n amhosib i Y Byd fwrw ymlaen â’r amserlen o fynd i’r wasg ym Mis Mawrth.
Fe allai’r broses orffen cyn bo hir - bydd adolygiad Bwrdd yr Iaith yn dod i ben o fewn ychydig wythnosau. Ond, wrth gwrs, nid yw Dyddiol Cyf yn rheoli’r amserlen na’r broses wleidyddol. Felly mae’n rhaid bod yn gyfrifol ac amyneddgar. I gael papur dyddiol llwyddiannus, mae angen arian cyhoeddus. Mae angen sicrhau seiliau ariannol y fenter, ac mae’n gwneud synnwyr busnes da i adolygu’r sefyllfa.
Dyma’r datganiad
Datganiad gan Ned Thomas, Cadeirydd Dyddiol Cyf.
“Mae paratoadau ar gyfer sefydlu Y Byd, y papur dyddiol cyntaf erioed yn Gymraeg, yn agosáu at gyfnod allweddol. Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad at y wasg Gymraeg, gan gynnwys papur dyddiol Cymraeg.”
“Hefyd rwy’n croesawu adolygiad y Gweinidog Treftadaeth a Bwrdd yr Iaith Gymraeg o’r wasg Gymraeg, fydd wedi ei gwblhau erbyn diwedd 2007. Wrth i’r broses o adolygu’r wasg Gymraeg barhau, mae Dyddiol Cyf yn aros yn eiddgar i glywed pa gefnogaeth fydd ar gael maes o law i helpu ariannu papur dyddiol.”
“Fe hoffwn ddiolch i holl gefnogwyr y fenter am eu cefnogaeth a’u hamynedd, ac rwy’n hyderus y cawn ragor o newyddion positif am ddyfodol y wasg Gymraeg yn gynnar yn 2008. Mae’r amserlen a osodwyd ar gyfer y broses yn golygu ein bod yn adolygu dyddiad lansio Y Byd. Ein cynllun gwreiddiol oedd lansio’r papur ar Fawrth 3ydd, 2008. Yn y cyfamser mae’r gwaith o baratoi ar gyfer ymddangosiad y Byd yn parhau.”
Hyd
26
Gwynedd
Categorïau: Uncategorized | 2 sylw
Mae Cyngor Gwynedd mewn trafferth.
Ar y naill law fe aethon nhw ati i ddechrau proses ymgynghori ar ddyfodol ysgolion cynradd y sir.
Ac ar y llaw arall fe aeth y cyngor ati hefyd i wneud cynlluniau i uno neu gau degau o ysgolion yn groes i ddymuniadau nifer sylweddol o rieni, staff, plant ac etholwyr.
Mae gen i blant mewn un ysgol sydd o dan fygythiad. Mae’r ysgol yn llawn. Mae’r ysgol yn llwyddo. Nid ysgol hanner gwag, sydd yn gwanhau o ddydd i ddydd. Eto’r bwriad yw cau’r ysgol.
Dim eglurhad digonol chwaith.
Mae’n gysur nad yw’r broses ymgynghori ar ben eto. Mae hygrededd y broses yn dibynnu ar y graddau bydd y swyddogion a’r cynghorwyr yn barod i wrando. Mae angen diwygio - ond pa gyfiawnhad sydd yna i ddinistrio ysgolion llewyrchus?
Hyd
3
Newyddion o’r Cynulliad
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru, Y Byd | 1 sylw
Dyma gwestiwn ag ateb o’r Senedd fydd o ddiddordeb i gefnogwyr Y Byd…….trafodaeth ddaeth yn sgil datganiad gan Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog Treftadaeth.
Dyma’r uchafbwyntiau perthnasol.
Paul Davies AC, Ceidwadwr :
“Croesawaf y cyhoeddiad heddiw ei fod ef, fel minnau, yn dymuno creu Cymru ddwyieithog, drwy roi statws iaith swyddogol i’r Gymraeg a sefydlu comisiynydd iaith. Yr wyf hefyd yn croesawu cynnydd mewn gwariant ar bapurau newydd a chylchgronau Cymraeg. Fodd bynnag, mae ‘Cymru’n Un’ yn sôn am sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg ond ni chyfeirir at hynny yn y datganiad hwn. A wnaiff rwymo’r Llywodraeth i gefnogi papur newydd dyddiol Cymraeg? Fel y gŵyr, yn ôl pob tebyg, mae papur newydd dyddiol Cymraeg o’r enw Y Byd ar ganol cael ei sefydlu. Os yw’n cefnogi’r papur newydd hwn, a wnaiff roi sicrwydd y bydd yn cael cymorth ariannol a rhoi awgrym i ni o ba faint y bydd hwnnw?”
Rhodri Glyn Thomas AC, Gweinidog Treftadaeth:
“Unwaith eto, croesawaf eich sylwadau am y Gymraeg. Cyfeiriasoch yn benodol at gymorth ar gyfer papur newydd dyddiol yn y Gymraeg—ydym, yr ydym wedi ymrwymo i gefnogi camau i sefydlu papur o’r fath. Cyfeiriasoch at Y Byd, ond pe byddem yn cefnogi papur newydd dyddiol, mae’n amlwg na allem roi ein holl gefnogaeth i un papur penodol—byddai’n rhaid ei chynnig ar dendr, a byddai’n rhaid i ymgeiswyr eraill gael cyfle, os dymunent, i geisio cael mynediad at y cyllid hwnnw. Holasoch am swm penodol; gwelaf fod y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus yma, ac yr wyf yn dal i negodi’r swm penodol hwnnw gydag ef a’i swyddogion. Yn y pen draw, y Cabinet a fydd yn penderfynu ynghylch yr arian a aiff at bapur newydd dyddiol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r ymrwymiad wedi’i wneud—yr ydym wedi ymrwymo i gefnogi camau i sefydlu papur newydd dyddiol yn y Gymraeg.”
Hyd
1
Gareth Jenkins
Categorïau: Uncategorized | 2 sylw
Sacked. Pennawd mae’r Western Mail wedi ymgyrchu i ysgrifennu ers misoedd.
Roedd hi’n ganlyniad aruthrol siomedig i dîm rygbi Cymru, ac mae’r cyfryngau Cymreig wedi dechrau proses arall o or-ymateb.
Dydd Sadwrn fe welwyd gem orau cwpan y byd. Roedd Cymru ar fin cwblhau buddugoliaeth arwrol pan gafodd Fiji’r hyfdra i daro ‘nol. Gyda ychydig bach o lwc, byddai Cymru wedi ennill y gêm. Byddai hynny, yn ôl pob tebyg, wedi arwain at grasfa yn rownd yr wyth olaf, ond byddai pawb wedi mynd adref yn fodlon.
Yng nghanol yr asesiad o’r methiant, mae un peth ar goll. Beth oedd cyfraniad y Western Mail ? Roedd gan Gareth Jenkins broblem barhaol drwy’r gystadleuaeth. Roedd ganddyn nhw newyddiadurwyr ar y daith oedd yn barod i hyrwyddo a chanmol yn ogystal â chreu rhwygiadau niweidiol yng nghanol y garfan. Nid adlewyrchu rhwygiadau, sydd yn ddigon teg. Ond roedd e’n gwbl amlwg i mi fod y Western Mail yn barod i fynd y tu hwnt i hynny.
Fe gollodd Gareth Jenkins y frwydr yn erbyn y papurau. Roedd colli yn erbyn Fiji yn fwy tebygol wedyn.
Medi
17
Tyfu Lan
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | 2 sylw
Mewn cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw mae Rhodri Morgan yn hawlio bod Cymru wedi “tyfu lan” ers y refferendwm ar ddatganoli.
Yn ei araith mae Rhodri Morgan yn asesu Cymru cyn ‘97.
Prin oedd hyder Cymru yn ei bywyd cyhoeddus, meddai.
Mae’n cydnabod - roedd gan Gymru fudiadau fel yr Urdd, Merched y Wawr, UCAC a’r FUW a oedd yn dangos mesur o annibyniaeth. Mudiadau, yn ôl Rhodri Morgan oedd yn gweithredu yn rhannol o fewn “preifatrwydd yr Iaith Gymraeg”.
Awgrym efallai, gan fod y mudiadau yma yn Gymraeg, doedden nhw ddim yn cyfri.
Neu efallai ‘doedd Cymru gyfan ddim yn ymwybodol o waith y mudiadau hyn. Beth bynnag mae gan Mr Morgan neges hyderus.
Mae Cymru wedi newid yn sylfaenol ers 1997.
Mae Cymru wedi symud y tu hwnt i gwyno am ei thynged ac wedi dechrau cymryd camau positif i wella bywyd yng Nghymru, meddai.
O bosib mae’r ddadl o blaid Senedd rymus yng Nghaerdydd yn cryfhau.
Mae hyn yn cael ei gefnogi gan arolwg Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae awgrym yma mai dim ond 17% o boblogaeth Cymru sy’n gwrthwynebu datganoli yn llwyr erbyn hyn. Ond lleiafrif : 42% sydd o blaid senedd â grymoedd deddfu llawn. Mae’r gwrthwynebiad i ddatganoli yn diflannu. Ond mae hynny yn wahanol i ennill y ddadl o blaid troi adeilad y Senedd yn Senedd go iawn.
Medi
4
Cwpan y Byd
Categorïau: Uncategorized | 1 sylw
I blant, ac ambell oedolyn a ddylai wybod yn well, mae cwpan y byd yn cynnig cyfle i rwygo poster allan o’r papur ac aros yn eiddgar i lenwi’r sgoriau . Dyma fi felly yn chwilio am le i roi poster y Western Mail ar y wal. Problem. Beth yw’r llun ar y poster? Tîm rygbi Lloegr yn cofleidio cwpan y byd. Bwrdd darts ‘falle.
Mae’r tîm cenedlaethol ar eu ffordd i Ffrainc o’r diwedd.
Roedd Rhodri Morgan ac Ieuan Wyn Jones gyda’r garfan ddoe ac fe fydd Rhodri Glyn Thomas yn ffarwelio â nhw heddiw. Pwy fydd yno i’w croesawu yn ôl ?
Gor
20
Treftadaeth
Categorïau: Gwleidyddiaeth Cymru | 5 sylw
‘Dwi ddim, fel arfer, yn bedantig am eiriau. Mae heddiw yn eithriad.
Mae Rhodri Glyn Thomas wedi ei benodi yn weinidog Treftadaeth, ac mae hynny yn cynnwys gofalu am y Gymraeg. Mae rhoi’r Gymraeg ym mocs y gair Treftadaeth yn fy ngwneud yn anghyfforddus. I mi mae’r teitl yn rhoi’r Gymraeg yno gyda’r cestyll a’r amgueddfeydd.
Fe all hynny chwarae i gyfeiriad pobl sy’n methu cydnabod Cymraeg fel iaith naturiol ond yn rhywbeth academaidd sydd yn perthyn i’r gorffennol. Neu ydw i yn bedantig?
