Pam cael papur newydd dyddiol Cymraeg? A pham nawr?
Y Mae'r Cymry Cymraeg heddiw yn fwy gwasgaredig nag y buont; mae'n patrymau gwaith a'n gwead cymdeithasol yn fwy cymhleth, a bydd angen i bapur newydd dyddiol adlewyrchu'r amrywiaeth hon.
Cawsom gefnogaeth aelodau o bob plaid yn y Cynulliad, ac ymgymeriad gan Lywodraeth Prydain wrth lofnodi Siartr Ieithoedd Cyngor Ewrop i hyrwyddo papur newydd Cymraeg ei iaith.
Cymraeg yw un o'r ychydig ieithoedd lleiafrifol yn yr Undeb Ewropeaidd sydd heb bapur dyddiol yn yr iaith.
Nid diffyg talent nag ymroddiad sy'n gyfrifol am hyn, ond diffyg buddsoddiad a diffyg hyder. Heddiw mae ffynonellau cyllid a chymorthdaliadau sylweddol i gael i gychwyn busnes a chreu swyddi o fewn ardaloedd Amcan Un. Rhaid manteisio arnynt.
Ar ôl deunaw mis o ymchwil i bob agwedd o'r fenter, ac ymgynghori eang gydag unigolion a sefydliadau drwy Gymru a thu hwnt, rydym yn argyhoeddedig y gall papur o fath arbennig lwyddo.
Sut fath o bapur?
Byddwn yn cyhoeddi Y Byd bum diwrnod yr wythnos - o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd y papur yn cynnig newyddion a sylwebaeth ar bynciau'r dydd, gyda phwyslais ar Gymru, ac hefyd yn cynnwys newyddion Prydeinig a rhyngwladol. Bydd sylw helaeth i chwaraeon, busnes a'r economi, addysg, amaethyddiaeth, diwylliant a hamdden.
Ym Machynlleth fydd prif swyddfa'r papur, gyda staff o 24 - tua 12 ohonynt yn newyddiadurwyr. Bydd gwefan eang gan y papur, ac archif o'r holl erthyglau.
Pris y papur fydd 70c o ddydd Llun tan ddydd Iau, a £1.20 ar ddydd Gwener i gynnwys atodiad ar gyfer y penwythnos. Bydd gostyngiadau sylweddol, a llu o fanteision eraill i gael i danysgrifwyr.

