Ergyd i'r Byd

Yn sgil cyhoeddiad y Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas mai dim ond £200,000 ychwanegol y flwyddyn fydd ar gael i ddatblygu'r wasg Gymraeg, ni fydd Dyddiol Cyf. yn gallu sefydlu papur dyddiol credadwy. Annhebyg iawn y bydd unrhyw un arall yn gallu gwneud ‘chwaith.

Ymateb y cyfryngau, y blogwyr, a'r cefnogwyr - rhagor o wybodaeth!

Mae ymchwil trwyadl yn dangos yr angen clir am rwng £600,000 a £1m o arian cyhoeddus yn flynyddol, rhywfaint ohono yn gallu deillio o hysbysebion y Llywodraeth, os yw menter o'r fath i lwyddo. Roedd hyn yn glir i'r Llywodraeth: dyma'r ffigurau a ddangoswyd i'r holl bleidiau cyn ac ar ôl etholiad mis Mai 2007, a dyma'r ffigyrau a ymddangosodd yn adroddiad Dr Tony Bianchi.

Cafodd y Gweinidog gyngor gwael i amddiffyn ei benderfyniad drwy ddweud ei fod yn “bosib” cynnal papur dyddiol Gwyddeleg Lá Nua ar grant blynyddol o £200,000. Ar union yr un diwrnod, cyhoeddwyd y byddai Lá Nua yn cau erbyn diwedd y mis oherwydd trafferthion ariannol.

Bydd rhaid i Lywodraeth y Cynulliad ailystyried nawr sut y mae am wireddu ei haddewid yn nogfen Cymru'n Un:

“Byddwn yn cynyddu'r cyllid a'r gefnogaeth a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg.”

Rydym fel cenedl yn haeddu papur dyddiol. Mae angen llais newyddiadurol ychwanegol ar Gymru er mwyn sicrhau plwraliaeth o fewn y cyfryngau. Am y rheswm hwn, mae Dyddiol Cyf. wedi penderfynu ystyried gwahanol fodelau o gyhoeddiad a allai cryfhau'r wasg Gymraeg yn y tymor byr.

Yn y cyfamser, yn dilyn datganiad Rhodri Glyn Thomas, mae'n flin gennym gyhoeddi bod Aled Price wedi penderfynu mai'r peth gorau iddo fe ac i'r fenter yw iddo ymddiswyddo fel Golygydd Y Byd. Diolchwn yn fawr iddo am ei holl waith a'i ymroddiad i sefydlu papur dyddiol Cymraeg.

Diolch yn fawr iawn i bawb am y gefnogaeth.